Questionnaire: Public
LLEISIWCH
EICH BARN!
Mae newidiadau mawr yn dod i Brif Gynghrair JD Cymru—ac mae’n bryd i chi ddweud eich dweud! Bydd yr ailfrandio hwn yn dathlu dwy ochr y gynghrair: y dreftadaeth ddofn a’r balchder cymunedol sy’n diffinio ei hanes, a’r angerdd a’r egni sy’n gwneud pob gêm yn fythgofiadwy. Mae eich llais yn bwysig. Helpwch i lunio hunaniaeth newydd eofn y gynghrair a gadael eich ôl ar ddyfodol pêl-droed Cymru. Gadewch i ni wneud hyn, gyda’n gilydd!
HOFFEM GLYWED EICH SYNIADAU!
Nid tasg syml yw creu brand newydd i’r gynghrair a phan ddaw’n fater o gynrychioli hunaniaeth unigryw pob clwb, mae’n anoddach fyth. Rhan o ailddatblygu’r brand yw creu brand a fydd yn codi proffil y gynghrair nid yn unig yma yng Nghymru, ond hefyd ar draws y DU a thramor.
Rydyn ni eisiau i’r gynghrair sefyll allan o’r dorf, yn union fel mae ein baner yn ei wneud ac i fod yn wreiddiol. Y nod yw creu brand sy’n adlewyrchu’r hyn rydym yn ei werthfawrogi ym mhêl-droed Cymru ac o fewn ein cymunedau. A gallwch chi helpu….
BRAND NEWYDD I BAWB
Mae brand newydd JD Cymru Premier yn ymwneud â chi. Nid dim ond gwedd newydd yw’r ailfrandio hwn – mae’n ddathliad o’r cefnogwyr, y chwaraewyr a’r cymunedau sy’n gwneud y gynghrair yr hyn ydyw. Wedi’i wreiddio ymfalchder ac angerdd cymunedau Cymru, bydd y brand hwn o’r bobl, dros y bobl.
O gaeau lleol i falchder cenedlaethol, eich llais chi, eich egni, a’ch cariad at y gêm sy’n ysbrydoli pob cam o’r daith hon. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n creu brand sy’n perthyn yn wirioneddol i bawb. Gadewch i ni ei wneud yn fythgofiadwy. Ein dyfodol ni yw hi.
